Sebastian Coe

Sebastian Coe
LlaisSebastian Coe - Desert Island Discs - 13 December 2009.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Medi 1956 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Loughborough
  • Tapton School
  • Abbeydale Grange School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, rhedwr pellter canol, hunangofiannydd, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
SwyddWorld Athletics President, London Organising Committee of the Olympic and Paralympic Games, President of the Olympic Organizing Committee, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Taldra176 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau54 cilogram Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadPeter Coe Edit this on Wikidata
MamTina Angela Lall Edit this on Wikidata
PriodNicola Elliott, Carole Smith Edit this on Wikidata
PlantMadeleine Rose Coe, Harry Sebastian Newbold Coe, Peter Henry Christopher Coe, Alice India Violet Coe Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Olympic Order, Bislett medal, L'Équipe Champion of Champions, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cyn-athletwr Seisnig a gwleidydd Ceidwadol yw Sebastian Newbold Coe, Baron Coe, KBE (ganed 29 Medi 1956), a adnabyddir fel Seb Coe.[1] Roedd Coe yn rhedwr pellter canol, enillodd bedwar medal Olympaidd, gan gynnwys yr aur yn ras 1500 metr Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ac 1984, gan osod wyth record y byd tu allan a tri dan do. Bu hefyd yn aelod o dîm ras gyfnewid a dorrodd record y byd. Domineiddwyd rhedeg pellter canol yr 1980au gan y gystadleuaeth rhyngddo ef a'i gyd-athletwyr Steve Ovett a Steve Cram.[2]

Wedi ymddeol o chwaraeon, daeth Coe yn Aelod Seneddol Ceidwadol o 1992 hyd 1997, gan ddod yn arglwydd am oes yn 2000. Ef oedd yn arwain y cais dros Lundain i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012, ac wedi i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wobrwyo Llundain gyda'r Gemau, daeth Coe yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain. Yn 2007, etholwyd yn is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau, gan gael ei ail-ethol am dymor pedair blynedd arall ar 25 Awst 2011.[3]

  1.  The Big Interview: Seb Coe. The Times (Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2011.
  2.  Sebastian Coe. BBC (9 Awst 2000). Adalwyd ar 23 Mai 2010.
  3. iaaf.org – International Association of Athletics Federations Archifwyd 2011-09-14 yn y Peiriant Wayback.. Daegu2011.iaaf.org (2011-08-24). Adalwyd ar 2011-12-06.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search